Ymchwil a Datblygu
Er mai rheoli a chynnal prif gronfeydd data iechyd a'u seilwaith technegol yw'r rhan fwyaf o'r gwaith a gaiff ei gynnal o fewn Uned Cynnyrch Gwybodaeth Atebion Iechyd Cymru (HSW), gall yr uned hefyd wneud defnydd o gronfa fawr o staff gwybodaeth ac ystadegau sydd â sgiliau dadansoddol ardderchog. Prif waith yr uned yw casglu, rheoli a dadansoddi data sydd ar gael mewn nifer o gronfeydd data cenedlaethol, a chynhyrchu a dosbarthu gwybodaeth sy'n deillio o'r cronfeydd data hyn, a'r prif gwsmeriaid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ar y cyfan, caiff dadansoddiadau a gaiff eu cynhyrchu yn erbyn unrhyw rai o'r cronfeydd data o fewn HSW eu gwneud yn unigol, yn annibynnol ar setiau data eraill. Fodd bynnag, wrth i ansawdd data wella ac wrth i nifer y setiau data canolog dyfu, mae'r potensial ar gyfer cysylltiadau rhwng (ac o fewn setiau data) yn cynyddu ac mae hyn yn cynnig cyfleoedd o ran dangosyddion iechyd newydd. Bydd y dudalen we hon ar Ymchwil a Datblygu yn golygu bod peth o'r gwaith a gaiff ei wneud gan staff HSW yn y meysydd hyn yn cael ei gyhoeddi, yn aml mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a'r byd Academaidd.
Document must be attached something like this:
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
25/09/2009