Sgipio mordwyaeth
 

Cyhoeddiadau

Data Genedigaethau a Marwolaethau

Mae Atebion Iechyd Cymru yn casglu data Genedigaethau a Marwolaethau'r SYG ar ran GIG Cymru. Derbynnir ffeiliau Genedigaethau Iechyd y Cyhoedd a ffeiliau Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd bob mis drwy Wasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru ac mae'r rhain yn cynnwys data o gofnodion genedigaeth a marwolaethau, a gaiff eu trawsgrifio o dystysgrifau cofrestriadau genedigaethau a marwolaethau'r mis blaenorol. Yn chwarterol hefyd, mae'r SYG yn rhoi ffeil i HSW sy'n cynnwys rhifau GIG a gaiff eu holrhain sy'n gysylltiedig â chofnodion marwolaethau a gafwyd yn ystod y 3 mis blaenorol.(more..)

Mapiau Iechyd Cymru

Mae Mapiau Iechyd Cymru yn offer cydadweithiol sydd allu cael ei ddefnyddio i archwilio nifer o fesurau iechyd. Mae’r mesurau wedi cael ei threfnu mewn i ddosbarthau eang fel cancr, llawdriniaethau cyffredin ac achosion niwed. Mae’r mapiau yn galluogi’r defnyddiwr i chwilio am ddata am ardal ddaearyddol o’i dewis (ble mae'n bosib), i edrych ar gyfeiriad y data dros amser, ac i gymharu ardaloedd yn erbyn ffigyrau Cymru gyfan. Mae'r mesurau ar gael at lefelau MSOA (Middle Super Output Area), USOA (Upper Super Output Area) ac UA (Unitary Authority) yn amodol ar reolau datguddiad a rhifau bach.(more..)

PEDW Data Online

 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 25/09/2009