Gwasanaethau IPU
Mae prif waith yr uned yn canolbwyntio ar gasglu, rheoli a dadansoddi data sydd ar gael mewn nifer o gronfeydd data cenedlaethol, ynghyd â datblygu a chynnal y seilwaith technegol cysylltiedig â darparu gwasanaethau gwybodaeth. Mae'r rhai sy'n derbyn gwybodaeth a gynhyrchir gan Uned Cynnyrch Gwybodaeth HSW yn cynnwys adrannau o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghyd ag Ymddiriedolaethau, BILlau a sefydliadau eraill o fewn GIG Cymru gan gynnwys Comisiwn Iechyd Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, y Ganolfan Gwasanaethau Busnes a Chanolfan Iechyd Cymru. Mae'r defnyddwyr eraill yn cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru, y Comisiwn Gwella Iechyd, yr heddlu, byd addysg a'r cyfryngau.
Y prif wasanaethau a ddarperir gan IPU yw:
-
Gwasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru (NWDSS)
-
Casglu, datblygu a rheoli data mewn cysylltiad â chronfeydd data cenedlaethol GIG Cymru gan gynnwys rhai Gofal Cleifion a Dderbyniwyd i'r Ysbyty (APC) a setiau data Cadw Apwyntiadau Cleifion allanol.
-
Cofrestr Weinyddol GIG Cymru
-
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol
-
Rheoli gweinyddion cronfa ddata i gynnal gofynion Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol Cymru a'r Ganolfan Wasanaethau Busnes
-
Darparu arbenigedd Safonau Data a Chodio Clinigol ar gyfer GIG Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru
-
Darparu arbenigedd ystadegol a dadansoddol er mwyn ei gwneud yn bosibl i wybodaeth gael ei darparu i ymateb i geisiadau rheolaidd a cheisiadau ar hap ar ffurf tablau sefydlog, tablau troi a gwasanaethau rhyngweithiol yn seiliedig ar y we
-
Gwasanaethau Technegol i ddatblygu, cynnal a rheoli'r amgylcheddau caledwedd a meddalwedd y mae eu hangen i gynnal gwasanaethau ystadegol a gwybodaeth IPU
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
24/09/2009